Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
|||
|
|
|||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Medi 2014 |
|
||||
|
|
|||||
Amser: |
09.30 - 12.15 |
|
||||
|
|
|||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
||||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion Cryno: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones AC (Cadeirydd) Keith Davies AC Paul Davies AC Suzy Davies AC John Griffiths AC Lynne Neagle AC David Rees AC Aled Roberts AC Simon Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Tystion: |
|
Bethan Jenkins AC Matthew Richards, Uwch-gynghorydd Cyfreithiol Michael Dauncey, Uwch-swyddog Ymchwil Addysg Rhys Iorwerth, Uwch-swyddog Ymchwil Addysg
Pierre Bernhard-Grout, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Jocelle Lovell, Canolfan Cydweithredol Cymru Dave Brown, Canolfan Cydweithredol Cymru |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Rogers (Ail Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
||||
|
|
|||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a Rebecca Evans. Nododd y Cadeirydd y byddai Paul Davies yn dirprwyo ar ran Angela Burns hyd nes y clywir yn wahanol. Dirprwyodd John Griffiths ar ran Rebecca Evans.
Nododd y Cadeirydd na fydd Bethan Jenkins, gan mai hi yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), yn mynychu unrhyw sesiynau Pwyllgor sy'n ymwneud â'r Bil. Ni fydd dirprwy ar ei rhan yng Nghyfnod 1.
2 Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jenkins AC. Cytunodd yr Aelod i ddarparu nodyn ynghylch Adran 12 o'r Bil, gan nodi'n benodol sut y bydd awdurdodau lleol yn datblygu ac yn cynnal rhestr o ffynonellau cyngor a sut y gallant sicrhau bod y cyngor hwnnw'n ddibynadwy.
3 Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 2
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
4 Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 3
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
5 Papurau i’w nodi
Nodwyd y papurau.
5.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru yn dilyn cyfarfod 25 Mehefin
5.2 Llythyr gan Addysg Uwch Cymru at y Pwyllgor Cyllid
5.3 Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf
5.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
7 Y Bil Addysg Uwch (Cymru) – Ystyried adroddiad drafft Cyfnod 1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod nesaf.